Robin Walker AS, 
 Yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ymadael â'r UE
22 Mawrth 2019

Annwyl Robin  

Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Dymunwn dynnu eich sylw at reoliadau sydd i’w gwneud gan Weinidogion y DU o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Y mater sy’n codi gyda'r rheoliadau hyn yw bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch ffiniau datganoli yng Nghymru.

Y rheoliadau hynny yw:

-        Rheoliadau Cymorth Gwladol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 - lle mae anghytuno rhwng y ddwy lywodraeth ynghylch a yw cymorth gwladol wedi'i ddatganoli.

 

-        Rheoliadau Bwyd, Diod, Meddyginiaethau a Gweddillion Milfeddygol (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019; Rheoliadau'r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Bwyd a Ffermio (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 - lle mae anghytuno rhwng y ddwy lywodraeth ynghylch a yw enwau bwyd gwarchodedig a dynodiadau daearyddol cynlluniau bwyd wedi’u datganoli.

Yn yr achosion hyn, rydym yn deall bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru y bydd gan Lywodraeth Cymru rôl yn y gwaith o weithredu'r cynlluniau sy'n ymwneud â chymorth gwladol a dynodiad daearyddol bwyd ac ati. Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd o'r fath, a bod Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn, yn ddiffuant, nid ydym yn credu mai dyma yw’r ffordd y dylid datrys anghydfodau ynghylch ffiniau datganoli.

 

Mae’r ffaith bod anghytundebau o’r fath yn parhau hyd heddiw yn hynod siomedig o ystyried mai diben symud pwerau’r Cynulliad i fodel cadw pwerau oedd sicrhau eglurdeb o ran ffiniau datganoli yng Nghymru.

Byddem yn ddiolchgar am eich barn ynghylch yr anghytundebau sydd wedi codi, ac a ydych chi'n cytuno nad yw rhoi sicrwydd ysgrifenedig (er yn ddiffuant) yn ffordd briodol o ddatrys anghydfodau o’r fath.

Rwy’n anfon copi o'r llythyr hwn at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol.

Yr eiddoch yn gywir,

Mick Antoniw

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.